Mor wâg yw'r dyfodol Yn aros 'nawr i ti a fi; Dim rhwystr o'r gorffennol, Cerddwn lawr y ffordd yn hy'. 'Rôl dod mor bell 'Does dim troi 'nôl i fod; Na'i daflu i gyd i ffwrdd Pan dry rhywbeth da yn sur; 'Does dim byd sy' wedi'i sgwennu I ddweud pa ffordd rhaid i ni fynd. 'Dwi ddim ishio unrhyw sicrwydd, Dim geiriau'n y graig, Dim addewidion cadarn, Na, Na Fel mae'r afon yn llifo i'r môr, Felly bywyd sy'n llifo'n ddi-dor O gopa'r mynyddoedd i fynwes y môr, Felly'n bywyd sy'n ddi-dor. 'Rôl llusgo'n traed rhy hir Pob milltir sy'n bla; Mae'n hen bryd i ni brofi, Profi'n bod ni'n ddigon da; 'Does dim gwir fel y gwir Sy'n herio dy feddwl di; Rhaid wynebu'r ffaith, paid â bod mor syn, Mae popeth gwerth i'w cael, i'w cael fan hyn. Fel mae'r afon yn llifo i'r môr, Felly bywyd sy'n llifo'n ddi-dor O gopa'r mynyddoedd i fynwes y môr, elly'n bywyd sy'n ddi-dor.