Atgo am yr eiliad cyntaf I dy weld yn dyfod dros y ddôl Dy wên yn tynnu at fy nghalon Yn rhoi ias yn rhedeg drwy fy nghorff Dy brydferthwch wedi fy nallu Dy gusannau mor felys a 'r mêl wrth dy flodau Llawn o gariad oedd fy nheimladau tuag atat bob amser Dy wedd I mi yn gyfareddol Dy lais mor swynol ar eos yn canu O mor hapus oedd fy nheimladau wrth feddwl amdanat Yr ergid poenus mor sydyn Yn llanw 'n nghorff gan boen Dy wyneb yn diflannu trwy fy nagrau Fy nghariad yn toddi fel yr eira Yn rhoi ias yn rhedeg drwy fy nghorff