Wel dyma'r Nadolig Ni wyddom be' ddaw Un flwyddyn yn darfod Un newydd sydd wrth law; Ie dyma'r Nadolig Llawn cysur a gwên I'r rhai agos ac annwyl, I'r ifanc a'r hen; Wel dyma'r Nadolig I'r gwan ac i'r cry', I'r cefnog a'r tlodion Mae'r noson mor ddu, I chi 'Dolig Llawen A thrwy'r holl flwyddyn gron Hapusrwydd a heddwch Heb ryfel ac ofn. Dim ond mynnu a chawn heddwch Dim mwy o ryfel nawr! Wel dyma'r Nadolig I'r du ac i'r gwyn, I'r coch a'r rhai melwyn, Rhaid sefyll fel un; Ie dyma'r Nadolig, Ni wyddom be' ddaw Un flwyddyn aeth heibio, Un newydd sydd wrth law; Dymunaf 'Dolig Llawen, A llond blwyddyn o hoen, Un hapus a thawel Heb ofnau a phoen. Dim ond mynnu a chawn heddwch Dim mwy o ryfel nawr! .....