Gwn mi wn fod y byd yn grwn 
Dw i'n saethu hwn fel bwled o wn 
Dw i'n saethu ngair fel bwled o wn 
Dw i'n saethu hwn fel bwled o wn 

Fi 'di Glyn Kysgod Angau 
A fi 'di D. Chwaeth 
Mynd i bob twll a chornel fel tywod ar y traeth 
Saethu ein brawddegau gyda bwa a saeth 
Llenwi ein bywydau a daioni a maeth 

Gwn mi wn fod y byd yn grwn 
Dw i'n saethu hwn fel bwled o wn 
Dw i'n saethu ngair fel bwled o wn 
Dw i'n saethu hwn fel bwled o wn 

Bwyta creision gyda chwrw nid llaeth 
Brwydro i ryddhau ein cyfeillion sy'n gaeth 
Heb honni fod ein bywyd yn well nag yn waeth 
Na'r bobl sydd yn derbyn ein geiriau ffraeth 

Gwn mi wn fod y byd yn grwn 
Dw i'n saethu hwn fel bwled o wn 
Dw i'n saethu ngair fel bwled o wn 
Dw i'n saethu hwn fel bwled o wn