Super Furry Animals

Caerffosiaeth

Super Furry Animals


Adeiladau mileniwm, 
Mewn ffug aliminiwm, 
Goruwch-ystafelloedd 
Am hanner miliwn o bunnoedd. 
Tyfwn adenydd 
Tra'n yfed Ymennydd, 
Mewn tafarndai thema 
A dim golwg o'r Wyddfa 

Dw i'n byw a bod 
Dw i'n byw a bod 
Arnofio yn y bae yn y baw a'r dod 

Coffi ewynnol, 
Cyflog derbyniol, 
Argae uffernol, 
Sgidiau ffasiynol, 
Saeri Rhyddion 
Yn rhedeg byrddion, 
Cyhoeddus, anweddus, 
Sefyllfa druenus. 

Dw i'n byw a bod 
Dw i'n byw a bod 
Arnofio yn y bae yn y baw a'r dod 

Dw i'n rhan o'r atal genhedlaeth, 
Ymfudwn o amaeth, 
O gefn gwlad i Gaerffosiaeth, 
O gefn gwlad i Gaerffosiaeth 

Dw i'n byw a bod 
Dw i'n byw a bod, 
Arnofio yn y bae yn y baw a'r dod