Nid wy'n gofyn bywyd moethus Aur y byd na'i berlau mân Gofyn wyf am galon hapus Calon onest, calon lân Cytgan Calon lân yn llawn daioni Tecach yw na'r lili dlos Dim ond calon lân all ganu Canu'r dydd a chanu'r nos Pe dymunwn olud bydol Hedyn buan ganddo sydd Golud calon lân, rinweddol Yn dwyn bythol elw fydd Hwyr a bore fy nymuniad Gwyd i'r nef ar edyn cân Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad Roddi i mi galon lân